Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Mawrth 2017
Amser: 09.06 -
09.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3946
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Simon Thomas AC (yn lle Neil McEvoy AC) |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 273KB) Gweld fel HTML (99KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd Janet Finch-Saunders wedi anfon ei hymddiheuriadau. Roedd Simon Thomas yn bresennol yn lle Neil McEvoy.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn sgil datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn cadarnhau y bydd Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei ddileu'n raddol, cytunwyd y dylid ysgrifennu ato i ofyn:
· sut y mae'n bwriadu cefnogi cynlluniau a phrosiectau llwyddiannus Cymunedau yn Gyntaf yn y dyfodol; ac
· a fydd parhau i fuddsoddi yn y rhaglenni Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf yn cefnogi cynaliadwyedd canolfannau ieuenctid fel Forsythia.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ystyried cynnwys datganiad sydd i ddod gan y Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ddyfodol darpariaeth gwaith ieuenctid.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i godi cwestiynau penodol a ofynnwyd gan y deisebydd, a gofyn bod y Pwyllgor yn cael gwybod am ganlyniad y drafodaeth yn y Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· cau'r ddeiseb o ganlyniad i'r eglurder ychwanegol am gadw pwerau'n ôl yn y maes hwn i Senedd y DU a ddarparwyd gan Ddeddf Cymru 2017; ac
· ysgrifennu at y deisebydd i awgrymu ei fod yn ystyried cyflwyno deiseb i Senedd y DU ac ysgrifennu at Adran Llywodraeth y DU ar gyfer Cymunedau a Llywodraeth Leol ar y mater.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl i fwrw ymlaen â'r mater o ystyried yr anhawster o ran cysylltu â'r deisebydd, a'r ffaith bod y ddeiseb wedi cael ei hystyried fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Fysiau a Chludiant Cymunedol yn y Pedwerydd Cynulliad.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn wyneb y ffaith bod y gwasanaeth X94 wedi cael ei ddisodli gan y gwasanaeth T3 a weithredir gan ddarparwr gwahanol, a diolch i'r deisebydd am godi'r mater hwn.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl i fwrw ymlaen â'r mater o ystyried yr anhawster o ran cysylltu â'r deisebydd, a'r ffaith bod y ddeiseb wedi cael ei hystyried fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Fysiau a Chludiant Cymunedol yn y Pedwerydd Cynulliad.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl nodi sut i fynd â'r ddeiseb ymlaen yn absenoldeb y cysylltiad gyda'r deisebwr.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb ac, wrth wneud hynny, ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i ofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor am ganfyddiadau'r adolygiad arfaethedig ar ôl i 12 mis o ddata gael eu casglu o orfodi'r Terfyn Cyflymder Newidiol.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
· ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, i rannu sylwadau'r deisebwr, a gofyn a yw asesiad effaith rheoleiddiol ar effaith economaidd a chymdeithasol y cynigion wedi cael ei wneud, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried dulliau amgen; ac
· aros am gyhoeddiad ynghylch camau gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru ar ôl yr ymgynghoriad.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ofyn a oes modd rhoi'r sicrwydd i'r deisebwyr y maent yn ei geisio ynghylch:
o a yw fforwm gwneud penderfyniadau cenedlaethol gydag adnoddau yn ddigon ymwybodol o'r risgiau gwasanaeth ac yn pennu blaenoriaeth wybodus i'r sefyllfa; a
o bod gwasanaethau niwrogyhyrol yn cael eu cynnwys o fewn cwmpas yr adolygiad cenedlaethol o niwrowyddorau yng Nghymru sy'n cael ei arwain gan WHSSC
· ysgrifennu at yr holl Fyrddau Iechyd Lleol i gael eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar yr adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y broses Cais Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) a gofyn am farn y deisebwyr eto ar y pwynt hwnnw.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· cau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl nodi sut i fynd â'r ddeiseb ymlaen yn absenoldeb cysylltiad gyda'r deisebwr; ac wrth wneud hynny
· aros am ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar yr adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y broses Cais Cyllido Cleifion Unigol (IPFR), a'i anfon ymlaen at y deisebydd er gwybodaeth.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at y Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd i rannu'r wybodaeth a dderbyniwyd gan Meningitis Now a'r Sefydliad Ymchwil Llid yr Ymennydd a gofyn a yw tystiolaeth bellach gan y JCVI wedi cael ei hystyried gan Lywodraeth Cymru ers yr ohebiaeth flaenorol ym mis Awst 2016, yn enwedig mewn perthynas â brechu plant hyd at 2 oed, a rhwng 3 a 5; ac
· ceisio barn y deisebwr eto ar yr holl ohebiaeth ddiweddaraf a dderbyniwyd ar y pwynt hwnnw.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y pryderon a'r cwestiynau a godwyd gan y deisebwyr.
Trafododd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl nodi sut i fynd â'r ddeiseb ymlaen yn absenoldeb cysylltiad gyda'r deisebwr.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
· cysylltu â'r deisebydd i ofyn am ei farn ar yr ohebiaeth ddiweddaraf; ac
· ysgrifennu i Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ofyn iddynt fynd i'r afael â'r sylwadau penodol a wnaed gan y deisebydd am ei phrofiadau wrth geisio cael mynediad at wasanaethau cymorth yn ardal y cyngor.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth a chytunodd i gau'r ddeiseb, o ystyried bod y deisebwyr yn aelodau o'r grŵp Gorchwyl a Gorffen sydd wedi gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ystyried pa gamau i'w cymryd ymlaen.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd y cadarnhad a dderbyniwyd oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar ei fwriad i wneud darlledu cyfarfodydd Cynghorau yn ofyniad statudol.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail bod gan y deisebwyr ar hyn o bryd gyfle i roi eu barn o ran datblygu cynigion ar ddiwygio llywodraeth leol, ac nad oes fawr o werth pellach y gall y Pwyllgor Deisebau gynnig ochr yn ochr â'r broses honno.
Derbyniwyd y cynnig.
Rhoddodd Clerc y Pwyllgor ddiweddariad i'r Aelodau ar gyflwyno newidiadau posibl i System Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.